Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 2 Gorffennaf 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:12 - 10:45 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Joyce Watson Lindsay Whittle |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Helen Jones, Prif Ddeisebwr Tony Alexander, Adfocad gyda'r Gymdeithas Alzheimers Lisa Morgan, Hugh James, Cyfreithwyr |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Naomi Stocks (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol) Stephen Boyce (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins AC; bu Lindsay Whittle AC yn dirprwyo ar ei rhan.
2 P-04-432 Atal Recriwtio i’r Fyddin mewn Ysgolion
Bu Aelodau’n trafod y sesiwn dystiolaeth a gynhaliwyd ar 2 Mehefin. Cytunodd yr Aelodau:
3 Deisebau newydd
3.1P-04-493 Moratoriwm ar Gynlluniau Datblygu Lleol mewn Rhanbarthau Dinesig posibl
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog Tai ac Adfywio er mwyn ceisio ei farn arni.
4 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
4.1P-04-462 Gwahardd codi baner y Deyrnas Unedig ar adeiladau swyddogol yng Nghymru
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb yng ngoleuni bwriad y Llywodraeth i barhau i godi baner y Deyrnas Unedig.
4.2P-04-333 Rhoi diwedd ar esgeuluso a gadael ceffylau a merlod drwy orfodi deddfwriaeth ar ddefnyddio microsglodion.
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i aros i’r dadansoddiad o’r ymgynghoriad gael ei gyhoeddi.
4.3P-04-399 Arferion lladd anifeiliaid
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, gan ofyn iddo am amserlen ar gyfer trafod y mater hwn.
4.4P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, gan ofyn iddo am amserlen ar gyfer trafod y mater hwn a chan nodi’r wybodaeth ychwanegol a gafwyd gan y deisebydd.
4.5P-04-445 Achub ein cŵn a chathod yng Nghymru rhag cael eu lladd ar y ffyrdd
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, gan nodi’r ffaith fod Companion Animal Welfare Council yn gefnogol o amcanion y ddeiseb ac yn gofyn iddo a fydd y mater hwn yn cael ei ystyried ymhellach.
4.6P-04-363 Cynllun i Wella Canol Tref Abergwaun
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at:
· Gonsortiwm Cludiant Integredig De-orllewin Cymru, gan ofyn iddo am y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed ar gynigion Abergwaun; a
· Chyngor Sir Penfro, gan nodi gohebiaeth Llywodraeth Cymru a chan annog y cyngor i ddatblygu’r gwaith hwn fel rhan o’r fframwaith adfywio newydd.
4.7P-04-380 Dewch â'n bws yn ôl! Deiseb yn erbyn diddymu’r gwasanaethau bws o ddwyrain Llanbedr Pont Steffan, Cwm-ann a Phencarreg
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i’w chau yn sgîl y diffyg ymateb gan y deisebydd.
4.8P-04-459 Cysylltiad rheilffordd uniongyrchol o Faes Awyr Caerdydd i ganol Caerdydd a gorllewin Cymru
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, gan ofyn iddi am y wybodaeth ddiweddaraf am ei hymateb i’r adroddiad gan y tasglu ar drafnidiaeth integredig yn ne ddwyrain Cymru.
4.9P-04-417 Achubwch Draeth Morfa ac ataliwch Lwybrau Troed Cyhoeddus 92 a 93 rhag cau
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i’w chau yn sgîl y ffaith fod yr Arolygiaeth Gynllunio yn parhau i ystyried y mater hwn.
4.10 P-04-423 Cartref Nyrsio Brooklands
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Gyngor Sir Penfro, gan ofyn iddo a oes cynlluniau i ailgyflwyno cais cynllunio. Cytunwyd y byddai Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cael ei gynnwys yn yr ohebiaeth hon.
4.11 P-04-473 Cymorth Ariannol ar gyfer yr Ymchwiliad Cyhoeddus i Ffermydd Gwynt
Datganodd William Powell a Russell George fuddiant fel aelodau o Gyngor Sir Powys.
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ar y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth y DU ynghylch pryderon y deisebydd am gyllido’r ymchwiliad.
4.12 P-04-440 Dywedwch ‘Na’ i werthu asedau Ysbyty Bronllys
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ar y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Powys i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau sy’n berthnasol i Fronllys.
4.13 P-04-471 Deddfwriaeth Orfodol i Sicrhau Bod Diffibrilwyr ar Gael Ym Mhob Man Cyhoeddus
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ar y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau:
· i ysgrifennu at Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Sefydliad Prydeinig y Galon a phob bwrdd iechyd lleol, gan ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran adolygu’r ddarpariaeth o ddiffibrilwyr mewn mannau cyhoeddus; ac
· i aros am yr ymatebion sydd eto i ddod i law.
4.14 P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ar y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y rhanddeiliaid a ganlyn, gan geisio eu barn ar y mater hwn:
· Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru;
· Action on Hearing Loss;
· Llywodraethwyr Cymru; a
· Chadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar faterion sy’n ymwneud â bod yn fyddar.
4.15 P-04-397 Cyflog Byw
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i geisio ymateb gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi.
5 P-04-456 Dementia - Gallai hyn ddigwydd i chi: Sesiwn Dystiolaeth
Atebodd Helen Jones, Tony Alexander a Lisa Morgan gwestiynau gan y Pwyllgor.